Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - Senedd
Dyddiad: Dydd Llun, 5 Mehefin 2017
Amser: 14.00 -
15.45
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/4110
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Nick Ramsay AC (Cadeirydd) Mohammad Asghar (Oscar) AC Neil Hamilton AC Mike Hedges AC Neil McEvoy AC Rhianon Passmore AC Joyce Watson AC (yn lle Lee Waters AC) |
Swyddfa Archwilio Cymru: |
Huw Vaughan Thomas - Archwilydd Cyffredinol Cymru Claire Flood-Page Mark Jeffs Matthew Mortlock Dave Rees |
Staff y Pwyllgor: |
Fay Bowen (Clerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) Katie Wyatt (Cynghorydd Cyfreithiol) |
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod (PDF 999KB) Gweld fel HTML (999KB)
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Lee Waters AC. Roedd Joyce Watson AC yn dirprwyo ar ei ran.
2.1 Cafodd y papurau eu nodi.
3.1 Trafododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru a chytunodd i ofyn am adroddiad cynnydd yn ystod tymor yr hydref 2017.
3.2 Cytunodd y Pwyllgor hefyd y dylid ceisio cael cadarnhad gan Lywodraeth Cymru ynghylch yr amser o ran bwriad Llywodraeth Cymru i weithio gyda byrddau iechyd i ymchwilio i hyfforddiant gorfodol ar gyfer maeth.
4.1 Derbyniwyd y cynnig.
5.1 Trafodwyd yr adroddiad drafft. Gofynnodd Aelodau i rywfaint o newidiadau drafftio gael eu gwneud, a fydd yn cael eu trafod y tu allan i'r Pwyllgor.
6.1 Cyflwynodd Archwilydd Cyffredinol Cymru ei bapur ar waith sy'n mynd rhagddo ar raglen waith gwerth am arian, a gafodd ei nodi gan yr Aelodau.
7.1 Cafodd Aelodau eu briffio gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ar ei adroddiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar a chytunodd i gynnal ymchwiliad yn hwyrach yn nhymor yr hydref 2017 unwaith y bydd gan Lywodraeth Cymru gynlluniau mwy datblygedig ar gael ar gyfer Band B y rhaglen.
8.1 Nododd yr Aelodau y papur a chroesawodd gynnig Archwilydd Cyffredinol Cymru i lunio Memorandwm ar ddarlun eang y mater. Roedd yr Aelodau hefyd yn ymwybodol o'r angen i gysylltu â'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn ystod y gwaith hwn.